Lleoliad: Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2022
Amser:
09.32 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13062
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer, Llywodraeth Cymru Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Helen John, Llywodraeth Cymru David Chapman, UK Hospitality Cymru Leighton Jenkins, CBI Cymru Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru Gwyneth Sweatman, Federation of Small Businesses (FSB) |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Joseph Thurgate (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog
2.2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.3 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.4 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.5 Llythyr at Weinidog yr Economi
2.6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.7 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.8 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
3 Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y trafodaethau sy'n digwydd gyda phobl ifanc, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol gwarant pobl ifanc yn y flwyddyn newydd.
3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar brentisiaethau gradd a’u datblygiad yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft.
3.4 Cytunodd y Gweinidog i rannu â’r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar y cynllun rhyddhad ynni i fusnesau, pan fydd ar gael.
3.5 Cytunodd y Gweinidog i ymgysylltu â’r Pwyllgor mewn sgwrs tymor hwy am ddyfodol ardrethi busnes, yn dilyn y Gyllideb Ddrafft.
3.6 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Cadeirydd i anfon cwestiynau am ymchwil ac arloesi at y Gweinidog ar gyfer ymateb ysgrifenedig.
4 Y gost o wneud busnes
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, UKHospitality Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Cymru.
4.2 Cytunodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag:
- adolygiad cyllideb frys Llywodraeth yr Alban gan gynnwys argymhellion ei phanel o arbenigwyr economaidd;
- ei waith gyda Banc Datblygu Cymru a pha mor aml y mae busnesau sy’n aelodau ohonynt yn cael mynediad at gymorth y banc.
4.3 Cytunodd y Ffederasiwn Busnesau Bach i ddarparu rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun rhyddhad biliau ynni'n gweithredu ar gyfer cyflenwyr ynni annomestig.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod cyfan ar 14 Rhagfyr 2022.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Preifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol.
7 Blaenraglen waith y Pwyllgor - y rhaglen ddeddfwriaethol
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen craffu deddfwriaethol cyn cytuno arni.